Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 4 Tachwedd 2020
Amser:
09.00 -
11.36
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6446
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AS Rhun ap Iorwerth AS Jayne Bryant AS Andrew RT Davies AS Lynne Neagle AS David Rees AS |
Tystion: |
Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg Tracey Breheny, Llywodraeth Cymru Liz Davies, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 3 y cyfarfod heddiw
2.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 3.
3 COVID-19: Trafodaeth ar y prif faterion o ran yr ymchwiliad i effaith Covid-19 ar iechyd meddwl
3.1 Trafododd y Pwyllgor y themâu allweddol sydd wedi codi yn sgîl y dystiolaeth a glywsom hyd yma ar effaith Covid-19 ar iechyd meddwl, a chytunwyd i ail-afael yn y drafodaeth ar ôl y sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog.
4 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg
4.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau yn ôl i’r cyfarfod.
4.2 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Llythyr gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gyda gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y cyfarfod ar 23 Medi 2020
5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5.2 Llythyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ynghylch cyfleusterau gorffwys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor
5.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5.3 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y Fframwaith Cyffredin Dros Dro ar gyfer Labelu Cysylltiedig â Maeth, Cyfansoddiad a Safonau
5.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5.4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Llywydd ynghylch craffu ar reoliadau Covid-19
5.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5.5 Adroddiad y Cynghorau Iechyd Cymuned: Gofal Mamolaeth yn ystod Pandemig y Coronafeirws
5.5 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad.
5.6 Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch gwasanaethau trawma ac orthopedig yng Nghymru
5.6 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5.7 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch gwasanaethau trawma ac orthopedig yng Nghymru
5.7 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.
7 COVID-19: Trafod y dystiolaeth
7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a nododd gasgliadau ac argymhellion i’w cynnwys yn yr adroddiad drafft.
7.2 Fel eitem Unrhyw Fater Arall heb ei drefnu, mewn perthynas ag eitem 5.5, cytunodd y Pwyllgor i gadw golwg ar ofal mamolaeth yn ystod y pandemig.